Disgyblion

Cliciwch ar y pennawd i gael yr wybodaeth .......

Diogelu eiddo

Cyfrifoldeb y disgybl yw unrhyw eiddo personol. Dylid marcio popeth (dillad, bagiau ac yn y blaen) yn glir er mwyn eu hadnabod. Nid yw’r ysgol yn gyfrifol am unrhyw eiddo personol a all fynd ar goll.

Ni ddylid gadael unrhyw eiddo gwerthfawr fel oriawr neu arian yn y llecyn cotiau, ystafell newid, bagiau ac ati, ond dylid eu rhoi i'r athro priodol os na all y disgybl eu diogelu. Nid yw hyn yn rhoi cyfrifoldeb penodol am ddiogelwch yr eiddo ar yr athro hwnnw.

Ni ddylid dod â ffonau symudol i’r ysgol. Ni chaniateir i unrhyw ddisgybl ddefnyddio ffôn symudol yn ystod amser ysgol. Pe digwydd defnyddio ffôn mewn gwers, neu arholiad, bydd yr ysgol yn cymryd camau i ymdrin â hynny. Mae rheolau y Byrddau Arholi ar gyfer arholiad swyddogol yn nodi y bydd i ddisgybl sy’n dod â ffôn symudol i arholiad, hyd yn oed a hithau heb fod ymlaen, gael ei ddiarddel o’r arholiad. Os bydd angen cysylltu a rhieni, yr ysgol fydd yn gwneud hynny dros y disgybl o’r swyddfa.

Gadael yr ysgol yn ystod yr oriau swyddogol

Ni ddylai unrhyw ddisgybl adael yr ysgol yn ystod oriau'r ysgol os nad yw wedi derbyn nodyn swyddo­gol yn rhoi caniatâd.

Dylai'r rhieni wneud cais ysgrifenedig am ganiatâd o'r fath.

Gwisg Ysgol

GENETHOD Blynyddoedd 7 - 11
Sgert Glas tywyll o hyd barchus (ni chaniateir "cycling shorts" o dan y sgert)
Trowsus Plaen glas tywyll neu ddu (ni chaniateir jîns, corduroys na gwaelodion tracwisg)
Crys Blwyddyn 7,8,9 Polo Coch gyda bathodyn yr ysgol yn unig
  Blwyddyn 10, 11 Polo Glas gyda bathodyn yr ysgol yn unig
Crys Chwys Un yr ysgol yn unig
Sanau tew Du neu las dywyll
Sanau byr Gwyn neu las dywyll
Côt allan Cefndir glas tywyll neu ddu
Esgidiau Du mewn steil synhwyrol
GENETHOD Bl.12 a 13
Fel yr uchod, ac eithrio :
Crys/Blows Gwyn
Tei Tei blwyddyn 12 a 13


BECHGYN Blynyddoedd 7 - 11
Trowsus Plaen glas tywyll neu ddu (ni chaniateir jîns, corduroys na gwaelodion tracwisg)
Crys Blwyddyn 7,8,9 Polo Coch gyda bathodyn yr ysgol yn unig
  Blwyddyn 10, 11 Polo Glas gyda bathodyn yr ysgol yn unig
Crys Chwys Un yr ysgol yn unig
Côt allan Cefndir glas tywyll neu ddu
Esgidiau Du mewn steil synhwyrol
BECHGYN Bl.12 a 13
Fel yr uchod, ac eithrio :
Crys Gwyn
Tei Tei blwyddyn 12 a 13

Cost y Crys Polo a'r Crys Chwys fydd tua £10 yr un a chredwn fod hyn yn bris rhesymol iawn. Gellir eu prynu yn siop Trefor Jones, Siop y Don, Siop Na-nog, neu Set One, Caernarfon.

Gwisg ar gyfer gwersi ADDYSG GORFFOROL
Blwyddyn 7 ac 8 Blwyddyn 9/10/11
Crys T ysgol gwyn Crys pêl-droed/ rygbi
Crys Rygbi ysgol Crys T
Siorts du ( dim tracwisg) Siorts ( dim tracwisg)
Sanau ysgol Sanau pêl-droed
Esgidiau pêl-droed/ rygbi/ ymarfer/ pymps Esgidiau pêl-droed/ rygbi/ ymarfer/ pymps
   
Gellir archebu’r rhain ar nosweithiau cyflwyno’r ysgol ym Mehefin.

Clustlysau
Caniateir i bob disgybl wisgo UN styd, yng ngwaelod ei glust yn unig. Er diogelwch ni chaniateir unrhyw dlysau eraill, ag eithrio oriawr.

Colur, Steil, a Lliw Gwallt
Ni chaniateir yr hyn sydd, ym marn yr ysgol, yn or-ddefnydd o golur, nag yn steil, na lliw, gwallt sy’n anaddas, neu’n eithafol. Bydd yr ysgol yn ymdrin ag unrhyw dorri ar y rheol hon yn y modd y bernir orau.

 

 

Llyfrau / Offer

Byddai'n fuddiol i'r disgyblion ddod â geiriadur addas mewn Cymraeg a Saesneg yn ogystal â llyfr bras a llyfr darllen gyda hwy i'r ysgol bob dydd.

Cyfrifiannell
Gwerthir cyfrifiannell bwrpasol ar gyfer safon TGAU mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth yn yr ysgol am bris rhesymol a fydd o gwmpas hanner pris siop am yr un eitem.

TREFN Y DIWRNOD

Mae 6 gwers y dydd a rhennir y diwrnod fel a ganlyn:


8.55 Cloch Baratoi
9.00 - 9.15 Cofrestru a Gwasanaeth
9.15 - 10.55 Cyfnod dysgu - Gwers 1 a 2
10.55 - 11.10 Egwyl
11.10 - 12.50 Cyfnod dysgu - Gwers 3 a 4
12.50 - 1.45 Cinio
1.45 - 1.50 Cofrestru
1.50 - 3.30 Cyfnod dysgu - Gwers 5 a 6

 

Cynhelir Gwasanaeth i wahanol flynyddoedd am 9.05 bob dydd.