Ysgol uwchradd sirol ar gyfer plant rhwng 11-18 mlwydd oed.

Ysgol Syr Hugh Owen yn rhan o 'School Report' y BBC
![]() |
Students from this school will be making the news for real on 21 March 2013 as they take part in BBC News School Report. We aim to publish the news by 1600 GMT on the News Day, so please save this page as a favourite and return to it later. In the meantime, take a look at what our students produced last year. Cliciwch yma i fynd i wefan y BBC School Report Adroddiad - cliciwch yma |
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Tlws Sefydliad Itala
Mae Sefydliad Itala wedi derbyn gwobr seren aur Uchel Glôd gan Lywodraeth Cymru a’r Cenhedloedd Unedig am eu gwaith, cefnogaeth a chyswllt Sefydliad Itala gydag ysgol ym Mkushi, Sambia sydd wedi sicrhau addysg ar gyfer plant amddifad a difreintiedig.
Cyflwynodd Mr Tony Foster, o Sefydliad Itala dlws i Mr V. Williams,
Pennaeth Ysgol Syr Hugh Owen i ddathlu’r wobr ac fel cydnabyddiaeth o gefnogaeth ddi-flino disgyblion a staff Ysgol Syr Hugh Owen dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Disgyblion Ysgol Syr Hugh i sgrechian yn y Gofod!
Gall rhywun eich clywed yn y gofod? Dyma’r cwestiwn y bydd dosbarth o flwyddyn 8 o Ysgol Syr Hugh Owen yn ceisio ei ateb wrth i fideo ohonynt sgrechian fynd yn ferial nos Lun. Trwy gyrraedd safle’r deg fideo gorau mewn cystadleuaeth genedlaethol fe fydd y fideo yn cael ei chwarae ar loeren yn orbitio’r Ddaear.
Dywedodd Dewi Morgan o flwyddyn 8 “Fe wnaethom recordio y fideo brynhawn dydd Llun ac roedd gennym ni tan 11.59pm yr un diwrnod i ennill cymaint o bleidleisiau posib, trwy Facebook a Twitter gan gynnwys galwad hwyr at Radio Cymru am 11.30 pm fe lwyddon ni i gyrraedd yr 8fed safle gyda 455 pleidlais”
Bydd 8N yn helpu i brofi’r hypothesis yn y gofod gall neb eich clywed yn sgrechian . Er bod yr ateb yn amlwg does dim llawer o bobl wedi ei brofi. Yn yr wythnosau nesaf, bydd gwyddonwyr Caergrawnt yn lansio lloeren i’r gofod. Fe fydd y lloeren yn cludo ffôn clyfar a fydd yn chwarae fideo o ddisgyblion Syr Hugh Owen yn sgrechian, bydd gwyddonwyr wedyn yn recordio unrhyw sain gan ddefnyddio microffon ar y lloeren. Ar yr un pryd bydd lluniau o’r disgyblion yn sgrechian yn y gofod yn cael ei danfon yn ôl i’r Ddaear.
Dywedodd Dr Robyn Wheldon-Williams, athro Gwyddoniaeth yn Ysgol Syr Hugh Owen “Rydym yn eithriadol o hapus i fod yn rhan o brosiect mor bwysig ac yn ddiolchgar iawn i bawb a gefnogodd trwy bleidleisio am y fideo, ar ôl ffilmio’r clip ac y clyw yn dod yn ôl yn araf rwyf yn siŵr y byddwn dal yn ei chlywed!”
Y gobaith trwy’r gwaith ymchwil yw y bydd miloedd o bobl ledled y byd yn dod i ddysgu mwy am Wyddoniaeth y Gofod a chyffroi am dechnoleg lloerenni.
Mae’r fideo ar gael i weld yma www.screaminspace.com/screams
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
![]() |
Adroddiad ar Eisteddfod 2012 - cliciwch yma |
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Prif ddisgyblion newydd Ysgol Syr Hugh Owen
O’r chwith i’r dde:
Lowri Ceiriog(Prif Ferch),o Gaeathro, sy’n astudio Hanes, Cymraeg a’r Gyfraith, ac yn gobeithio mynd ymlaen i’r Brifysgol; Owain Fenn-Jones(Prif Fachgen),o Gaernarfon, sy’n astudio Cemeg, Bioleg a Hanes, ac yn gobeithio mynd i’r Brifysgol i astudio Meddygaeth; Sam Burford(Dirprwy Prif Fachgen), o’r Bontnewydd, sy’n astudio Mathemateg, Ffiseg, Economeg ac Electroneg, ac yn gobeithio mynd i’r Brifysgol i astudio Peirianneg Fecanyddol (Mechanical Engineering); a Dwynwen Elen(Dirprwy Prif Ferch), o Ffrwd Cae Du, sy’n astudio Mathemateg, Bioleg, Cemeg a Hanes, ac yn gobeithio mynd i’r brifysgol i astudio Milfeddygaeth.
Cafodd y pedwar eu dewis oherwydd eu llwyddiant addysgol hyd yn hyn, ac oherwydd eu hymroddiad ddi-flino at holl agweddau o fywyd Ysgol Syr Hugh Owen yn y gorffennol. Mae’r ysgol yn hynod falch o’r pedwar ac yn teimlo’n sicr y byddant yn cyfrannu’n fawr at lwyddiant yr ysgol yn y dyfodol drwy ysbrydoli holl ddisgyblion iau yr ysgol i gyrraedd safon o ragoriaeth bersonol.
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
DATGANIAD I’R WASG
YSGOL SYR HUGH OWEN YN CAEL SEREN AUR AM AG
Gorffennaf 2012
Mae Ysgol Syr Hugh Owen wedi gorffen ar frig y dosbarth wedi i’w gwaith mewn AG gael adroddiad disglair tu hwnt.
Mae Chwaraeon Cymru a’r Gymdeithas ar gyfer Addysg Gorfforol yn hyrwyddo’r ysgolion sy’n cydnabod pwysigrwydd AG. mwy...
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Carfan rygbi Blwyddyn 7
Bu bechgyn Blwyddyn 7, Ysgol Syr Hugh Owen yn fuddugol yn nghystadleuaeth rygbi 7 bob ochr ysgolion Eryri, a gafodd ei chynnal yn nghlwb rygbi Caernarfon ar Orffennaf 11eg, 2012.
Trechont dimau 'B' Ysgolion Dyffryn Nantlle (6 cais i 0) a Brynrefail (5-0) yn y cyfnod grwpiau. Roedd y canlyniadau yma yn ddigon i sicrhau eu bod wedi gorffen ar frig y grŵp a sicrhau lle yn y rownd derfynol yn erbyn tim 'A' Dyffryn Nantlle.
Mewn gêm gyffroes, cipiodd bechgyn Syr Hugh Owen y gwpan gyda symudiad olaf y gêm pan wnaeth Jestin Roberts groesi yn y gornel i guro'r gem o dair cais i ddwy. Yr oedd y fuddugoliaeth yn hollol haeddiannol i garfan a oedd wedi chwrarae fel tîm trwy gydol y twrnamaint gyda phob aelod yn cyfrannu i'r llwyddiant.
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Mabolgampau'r ysgol
Dydd Iau, Mehefin 14eg cynhaliwyd mabolgampau'r ysgol. Bu'n ddiwrnod llwyddiannus iawn, torrwyd nifer o recordiau ysgol a Seiont oedd yn fuddugol ar ddiwedd y dydd - cliciwch yma i weld y lluniau a chliciwch yma i weld canlyniadau
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Diwrnod Chwaraeon y byd
Dydd Llun, Mehefin 25ain roedd hi'n ddiwrnod Chwaraeon y byd a daeth bron i 150 o ddisgyblion blwyddyn 5 y dalgylch draw i gymryd rhan mewn chwaraeon Olympaidd. Roedd criw arweinwyr chwaraeon blwyddyn 12 wedi trefnu'r disgyblion i 6 gwlad - China, America, Awstralia, Kenya, Ffrainc a Jamaica, a bu'r disgyblion yn gwneud ffrindiau newydd yn eu gwledydd wrth gymryd rhan mewn hoci, pel droed, naid hir, ras gyfnewid, pel fasged a badminton. cliciwch yma i weld y lluniau
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Wythnos Cenedlaethol Chwaraeon
Mehefin 26ain - 28ain - I ddathlu wythnos Cenedlaethol Chwaraeon cafodd disgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9 dridiau i godi eu ymwybyddiaeth am y Gemau Olympaidd. Roeddent yn dilyn amserlen gwahanol am y 3 diwrnod gan gael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon Olympaidd a Paralympaidd a gwneud gwaith am y Gemau mewn gwahanol bynciau. - cliciwch yma i weld y lluniau
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Dathliadau'r Fflam Olympaidd Dydd Llun, Mai 28ain 2012
Dau ddisgybl yn cael y fraint o gario'r fflam drwy Blaenau Ffestiniog.
Criw o flwyddyn 9 yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon ar y maes cyn i'r fflam ddod trwy'r dref!
Cliciwch yma i weld y lluniau.
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 - 4-9 Mehefin 2012, Safle Glynllifon
Rhif Uned Ysgol Syr Hugh Owen yw 5 & 6
Mae gan yr Ysgol uned ar faes yr Eisteddfod eleni gyda nifer o weithgareddau wedi eu trefnu trwy gydol yr wythnos. Dewch am dro i weld a chael sgwrs a phaned gyda ni.
Murlun – yn cael ei beintio gan y plant ar y maes.
Siawns i’r plant ieuengaf beintio copi papur o’r murlun – cystadleuaeth ddyddiol.
Hamper o gynnyrch lleol Cymreig - Raffl ddyddiol - gyda diolch i bawb sydd wedi cyfrannu.
Aduniad - prynhawn dydd Mercher am 2.30 i gyn disgyblion - gweler y wefan am fwy o fanylion.
Arddangosfa o luniau hen a newydd – dewch i weld os ryda’ch chi yn rhan o’r casgliad.
Cystadleuaeth Beic Rhwyfo - bydd cystadleuaeth dyddiol i weld pwy di’r gorau.
Paned neu ddiod oer - dewch am sgwrs gyda staff yr Ysgol.
Cofiwch gefnogi ein disgyblion - rhestr o ddyddiadau a chystadlaethau - cliciwch yma
Croeso mawr iawn i bawb, welwn ni chi yna
Cliciwch yma i gael copi o'r gweithgareddau
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Aduniad
![]() |
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------Ysgol Syr Hugh Owen yn rhan o 'School Report' y BBC
![]() |
Cliciwch yma i glywed y bwletin o'r ysgol! Cliciwch yma i fynd i wefan y BBC School Report |
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------Gemau Olympaidd 2012 - Gemau Ysgolion
![]() |
![]() |
|
| Llongyfarchiadau i Elin Catrin ar gael ei dewis i wneud gwaith gwirfoddol yn y School Games sydd yn cael eu cynnal ym Mharc y Gemau Olympaidd ym mis Mai. | ||
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------Ffilm ‘Lwsyr’ yn fuddugol!
Enillodd ffilm a gynhyrchwyd gan ddisgyblion o flwyddyn 10 wobr ffilm gorau Ysgolion Uwchradd yng ngwobrau Pics dros y Sul. Hon oedd y ffilm orau gan y bobl hefyd! Llongyfarchiadau i’r criw i gyd a gellir gweld y ffilm trwy ddilyn y linc ganlynol - cliciwch yma
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
I weld Seren Syr Hugh - cliciwch yma
Archif Newyddion 2011 - cliciwch yma