Gwybodaeth Ysgol

Mae’r ysgol yn gwasanaethu tref Caernarfon yn ogystal â phentrefi cyfagos sy’n cynnwys Rhosgadfan, Rhostryfan, Llandwrog, Bontnewydd, Caeathro a’r Felinheli. Mae’n dalgylch naturiol Cymreig sy’n yn ei dro’n gwneud yr ysgol yn unigryw yn ei Chymreictod gyda dros 98% o’r disgyblion yn dilyn cwrs Cymraeg Iaith Gyntaf.

Mae i’r dref a’r ysgol eu hanes unigryw ac mae perthynas agos rhyngom sy’n parhau i gryfhau.

Yn ogystal â bod yn gyswllt pwysig rhwng yr ysgol a’r rhieni, llywodraethwyr a disgyblion mae’r wefan yn bwysig ar gyfer unrhyw un sydd angen gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Ysgol Syr Hugh.

Yma fe gewch amrywiaeth o wybodaeth a newyddion, yn ogystal â dod i wybod am yr hyn sy’n digwydd yn allgyrsiol oddi fewn a thu allan i ffiniau’r adeilad. Gobeithiaf y cewch hwyl ar y pori trwy luniau, storïau a negeseuon.

Fel rhieni dylech sicrhau bod eich plant yn gwneud y gorau o’r cyswllt e-ddysgu sydd yma er mwyn cyrchu gwaith cartref, nodiadau o’r gwersi ac i adolygu. Trwy hyn mae oriau dysgu yn ymestyn gan ddod â’r ysgol fwy i’r cartref. Dyma agwedd sy’n sïwr o fod at ddant pob disgybl a dengys y ffordd i’r dyfodol i godi safonau a chael y gorau i blant Caernarfon a’r cylch.

Cliciwch ar y dolenni ar y chwith am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda