Croeso'r Pennaeth

Ar ran disgyblion, staff a rhieni Ysgol Syr Hugh Owen hoffwn estyn croeso cynnes i’n gwefan.

Mae Ysgol Syr Hugh Owen yn ysgol ddwyieithog gyda phoblogaeth o 875 o ddisgyblion, 51 aelod o staff dysgu a 34 o staff cefnogol.

Rydym yn gwasanaethu ein cymuned leol sy'n cynnwys tref Caernarfon a’r ardaloedd gwledig sydd o’i chwmpas.

Nod

Mae Ysgol Syr Hugh Owen wedi ymwrymo i ddarparu addysg ragorol ble mae disgyblion yn cael eu cymell i ymdrechu hyd eithaf eu gallu i lwyddo.

Ein nod yw cefnogi disgyblion i gyrraedd eu potensial ar draws ystod o bynciau academaidd a galwedigaethol, gan ganolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth. Rydym am i’n disgyblion adael yr ysgol gyda’r gallu i gystadlu yn y byd gwaith, mewn addysg bellach neu addysg uwch

Ethos

Mae’r ysgol yn un hapus ac rydym yn ymfalchïo yn y gofal a’r gynhaliaeth fugeiliol a roddir i’n disgyblion.

Mae cynhwysiant, Cymreictod, amrywiaeth, cydraddoldeb, parch ac empathi yn werthoedd yr ydym yn eu harddel.

Mr Clive Thomas
Pennaeth

“Mae trefniadau bugeiliol yn gryfder yn yr ysgol ac yn cyfrannu at yr ymddygiad da a'r gwelliannau mewn presenoldeb.”

ESTYN, Mawrth 2016

“Mae Ysgol Syr Hugh Owen yn ysgol dda, ac rwy'n teimlo'n hapus ac yn ddiogel yma.”

Disgybl Blwyddyn 8